Gofalu am deulu, oriau gwaith yn cynyddu? Efallai fod gennych berthynas henoed neu anabl ac angen help i lanhau’r cartref. Beth bynnag fo’ch rheswm, gall Time For You Caerdydd wneud gwahaniaeth go iawn.
Mae Time For You yn gwasanaethu ardal Caerdydd ers 15 mlynedd, ac rydym yn cynnig gwasanaeth personol wedi ei deilwra a chwilio am lanhäwr fydd yn ateb eich gofynion. Allai trefnu glanhäwr rheolaidd ar gyfer eich cartref ddim bod yn haws. Ar ôl ichi ymholi drwy ebost neu ffonio, byddwn yn ymweld â’ch cartref i drafod eich anghenion glanhau.
Daw’r un glanhäwr atoch bob tro
Cewch gwrdd â’ch glanhäwr cyn iddynt ddechrau gweithio ichi
Er tawelwch meddwl, byddwn yn rhoi cyfweliad i’r glanhawyr yn eu cartref eu hunain
Bydd gan eich glanhäwr dystiolaeth hunaniaeth a thystiolaeth o’u cyfeiriad preswyl
Byddwn yn gwirio tystebau ar gyfer pob glanhäwr
Gallwn ddarparu glanhäwr wedi ei (g)wirio gan yr heddlu os dymunwch
Gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog, gan gynnwys cefnogaeth ffôn ddydd Llun-Gwener
Gwasanaeth ymgynghorol a chefnogaeth ar gael yn Gymraeg.
Beth mae Time For You Caerdydd yn ei wneud?
Rheolwr Time For You Caerdydd yw Owen Saer, ac mae’r cwmni’n gwasanaethu’r ardaloedd cod post canlynol: CF3, CF5, CF10, CF11, CF14, CF15, CF23, CF24. Mae’r cwmni yn weithredol yng Nghaerdydd ers 2003, ac yn falch o’n gwasanaeth ardderchog cwsmer-ganolog (gwelwch dystebau isod).
Rydym yn cyflwyno glanhawyr cartref wedi eu gwirio a’u harchwilio yn ofalus i gartrefi preifat. Caiff pob deiliad tŷ drafod a chytuno union dermau’r gwaith gyda’r glanhäwr. Bydd Time For You Caerdydd yn cynnal cyswllt â’r client er mwyn sicrhau eu bod yn fodlon â’r gwaith a gyflawnir; pe digwydd fod angen i’r client newid y glanhäwr, awn ati yn ddi-oed i chwilio am lanhäwr newydd.
Yn arferol, gallwch ddisgwyl i’ch glanheuad cyntaf ddigwydd o fewn 7-10 diwrnod o’ch ymholiad (o bosibl yn fwy buan).
Pa waith fydd eich glanhäwr yn ei wneud?
Mae Time For You Caerdydd yn cynnig glanhau wythnosol, glanhau pythefnosol, glanheuadau unwaith-yn-unig, glanheuadau blynyddol, a glanheuadau diwedd tenantiaeth.
Bydd pob glanhäwr yn darparu glanhau cyffredinol, gan gynnwys ystafell ymolchi a chegin (glanhau sinciau, toiled, cawod/baddon, sychu arwynebau a golchi unrhyw loriau digarped), glanhau carpedi, tynnu llwch oddi ar arwynebau, a gwagio basgedi sbwriel. Gallwch hefyd ofyn i lanhawyr newid dillad gwely, llwytho neu wagio peiriant golchi llestri, glanhau ffenestri mewnol, neu wagio ysbwriel i finiau y tu allan i’r tŷ. Bydd rhai glanhawyr hefyd yn barod i ymgymryd â smwddio a golchi dillad (sylwch, fodd bynnag, nad yw Time For You wedi ei yswirio rhag unrhyw ddifrod a achosir yn ystod smwddio),
Sawl awr o lanhau fydd angen ar fy nghartref?
Fel canllaw bras, bydd angen tair awr yr wythnos ar gyfer glanheuad cyffredinol i dŷ 3 ystafell wely; ychwanegwch 30 munud ar gyfer pob ystafell wely ychwanegol. Ffactorau eraill i’w hystyried yw nifer y preswylwyr ac ymwelwyr (gan amlaf, bydd plant yn creu mwy o waith glanhau nag oedolion); a oes anifeilaid anwes; ystafelloedd ymolchi ychwanegol; ystafelloedd gwydr ac ati.
Pa bethau fydd glanhäwr ddim yn eu gwneud?
Yn arferol, fydd glanhäwr ddim yn cwblhau tasgau y tu allan i’r tŷ, er enghraifft glanhau ffenestri allanol, garddio, mynd â chŵn am dro, neu siopa. Yn yr un modd, nid oes ganddynt yswiriant i goginio, nac i ofalu am blant.
Beth os bydd y glanhäwr yn absennol?
Mae Time For You Caerdydd yn nodi’n glir wrth y glanhawyr mor bwysig yw hi i chi fod glanhawyr yn ddibynadwy. Pan fydd glanhäwr yn gwybod na fydd ar gael ar ddyddiad penodol, gallwn chwilio am lanhäwr arall dros dro os y dymunwch.
Ebost: [email protected]
Ffôn: 029 2029 1764